Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Trochi)Salary:Graddfa 5Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr Welsh Language Skills are essential for this position Lleoliad/Canolfan Waith - Llandrindod / Aberhonddu (teithiol) Am y rôl: Mae datblygu darpariaeth drochi drwy ganolfannau dynodedig yn gam cyffrous i'r Gymraeg ym Mhowys ac mae'n rhan o'r weledigaeth i gynyddu cyfleoedd mynediad at addysg Gymraeg. Mae'r swydd hon ar gyfer unigolyn ag angerdd dros y Gymraeg, ynghyd â'r amynedd a'r brwdfrydedd i gefnogi plant o Flwyddyn 2 i 6 sy'n cael mynediad at Ganolfan Iaith drochi yng nghanolbarth Powys (ardal Llanfair ym Muallt) ac yn eu hysgolion. Amdanoch chi: Cymhwyster Cynorthwy-ydd Addysgu : Lefel 3 Y gallu i gyfathrebu yn hyderus yn Gymraeg Angerdd dros y Gymraeg Ymrwymiad a brwdfrydedd i gefnogi plant o Flwyddyn 2 i 6 Sgiliau rhyngbersonol cryf Mae'r gallu i deithio'n hanfodol Eich dyletswyddau: Gan weithio o dan gyfarwyddyd yr athrawes, bydd cyfleoedd i weithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion, yn ogystal â rhywfaint o oruchwyliaeth dosbarth cyfan. Pan fydd y dysgwyr yn trosglwyddo i'w hysgolion eu hunain, bydd disgwyliad y bydd y Cynorthwy-ydd Dysgu yn cefnogi'r broses bontio honno ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau perthnasol gyda'r athro/athrawes dosbarth er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn i'r dysgwr. Bydd hyn yn cynnwys teithio a bydd costau teithio yn cael eu talu ar y cyfraddau arferol. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â: Bethan Price - [email protected] Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.#J-18808-Ljbffr
Job Title
Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Trochi)